Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (72)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
|
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Buddsoddi i Arbed (30 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Gwella Ysgolion (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Adolygiad o Wasanaethau Cynghori (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cynllunio a Chyflenwi Integredig (30 munud) |
7. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Plant a Phobl Ifanc Egnïol (30 munud) |
8. Dadl ar Ofal Iechyd y Llygaid yng Nghymru (60 munud) NDM5009 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau a gymerwyd hyd yma i wella gofal iechyd y llygaid; a 2. Yn cydnabod bod yna fwy o waith i’w wneud ac
y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn amlinellu ei
hymrwymiad i wella gofal iechyd y llygaid ar gyfer pobl Cymru
ymhellach fel rhan o raglen iechyd y cyhoedd ehangach. Ym mhwynt 1, dileu ‘camau a gymerwyd hyd yma’ a rhoi ‘datblygiadau a wireddwyd gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector’ yn ei le. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘i'w wneud,’ a rhoi'r canlynol yn ei le: ‘ac y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gydlynu rhaglen iechyd y cyhoedd ehangach a fydd yn ymgorffori newidiadau mewn prosesau monitro a chasglu data, sy'n angenrheidiol er mwyn galluogi cynlluniau gwasanaethau a gwaith hybu iechyd y llygaid mwy gwybodus’. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod y cynnydd sy’n deillio o Strategaeth Olwg Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cynlluniau gofal llygaid yn y dyfodol yn cysylltu â'r gwaith hwn ac yn adeiladu arno. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu’r broses o weithredu’r cynllun gofal iechyd llygaid. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau bod gostyngiad mesuradwy mewn achosion o golli golwg y mae modd eu hosgoi yn flaenoriaeth ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynllun gofal llygaid sy’n cael ei gyhoeddi yn sicrhau bod pob plentyn pedair a phum mlwydd oed yng Nghymru yn cael profion golwg yn yr ysgol. Gwelliant 7 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chasgliadau ymchwil sy’n awgrymu bod strwythur a chyfeiriad canfyddedig optometreg o ran gwerthu sbectolau yn annog y gymuned i ystyried bod profion llygaid (a gynhelir mewn siopau) yn wahanol i gamau gwarchod iechyd sylfaenol eraill. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 20 Mehefin 2012